top of page

REPORT: Young carers are missing 23 days of school every year

More than half of all teachers say young carers are not getting the support they need at school.


Carers Trust are releasing a major new study with detailed findings on the severe impact that caring can have on the education of many young carers.

The report, Caring and classes: the education gap for young carers, sets out the concerning state of young carers’ educational attainment and opportunities in England in 2024.


The findings are based on a combination of surveys, focus groups and individual interviews with young carers, parents and school/college staff. In addition, a series of polls has captured the views of approximately 25,000 pupils and over 8,000 teachers across England. Although this data has been collected in England, it mirrors the anecdotal evidence and voices of the Young Carers we support in Credu working across 5 counties in Wales.


The findings are stark. They reveal how caring role pressures mean many young carers are having to miss far too many days at school.  The survey also reveals a concerning lack of support at school for young carers to help them balance the pressures of their caring role with their schoolwork.

The survey found:

  • Young carers are missing on average 23 days of school every year – that’s more than a month in total.

  • Almost half of young carers at secondary school are ‘persistently absent’.

  • Only 46% of teachers think their school provides the support young carers need, while 23% of young carers say they get no support at all.

The report also sets out policy and practice solutions, as well as recommendations for better identification of, and support for, young carers throughout their education.

 

Credu would like to support your school through linking with its local project Gofalwyr Ceredigion Carers and through access to free resources that can be used for awareness raising and identifying Young Carers.


To access Credu Young Carers resources click on: https://padlet.com/creducarers/u0pc4j2tuz8vzovv

or to contact us please Email: ceredigion@credu.cymru


ADRODDIAD: Mae gofalwyr ifanc yn colli 23 diwrnod o ysgol bob blwyddyn 


Mae mwy na hanner o’r holl athrawon yn dweud nad yw gofalwyr ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn yr ysgol. 


Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn rhyddhau astudiaeth newydd o bwys gyda chanfyddiadau manwl am yr effaith ddifrifol y gall gofalu ei gael ar addysg llawer o ofalwyr ifanc.

Mae'r adroddiad, Caring and classes: the education gap for young carers, yn amlinellu cyflwr pryderus cyrhaeddiad addysgol a chyfleoedd gofalwyr ifanc yn Lloegr yn 2024.


Mae'r canfyddiadau'n seiliedig ar gyfuniad o arolygon, grwpiau ffocws a chyfweliadau unigol gyda gofalwyr ifanc, rhieni a staff ysgolion/colegau. Yn ogystal, mae cyfres o bolau piniwn wedi cofnodi barn tua 25,000 o ddisgyblion a dros 8,000 o athrawon led led Lloegr. Er bod y data hwn wedi’i gasglu yn Lloegr, mae’n adlewyrchu’r dystiolaeth anecdotaidd a lleisiau’r Gofalwyr Ifanc rydym yn eu cefnogi yn Credu sy’n gweithio ar draws 5 sir yng Nghymru.


Mae'r canfyddiadau'n drawiadol a llwm. Maent yn datgelu sut mae'r pwysau sy'n gysylltiedig â rôl gofalu yn golygu bod llawer o ofalwyr ifanc yn gorfod colli gormod o ddiwrnodau ysgol. Mae'r arolwg hefyd yn datgelu prinder pryderus o gefnogaeth yn yr ysgol ar gyfer gofalwyr ifanc i'w helpu i gydbwyso pwysau eu rôl ofalu gyda'u gwaith ysgol.

Canfu'r arolwg:

  • Mae gofalwyr ifanc yn colli 23 diwrnod o ysgol ar gyfartaledd bob blwyddyn – sef mwy na mis i gyd. 

  • Mae bron i hanner y gofalwyr ifanc mewn ysgolion uwchradd yn 'absennol yn barhaus'. 

  • Dim ond 46% o athrawon sy'n meddwl bod eu hysgol yn darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar ofalwyr ifanc, tra bod 23% o ofalwyr ifanc yn dweud nad ydyn nhw'n cael unrhyw gymorth o gwbl.

Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu atebion polisi ac ymarfer, yn ogystal ag argymhellion ar gyfer gwell adnabod a chymorth i ofalwyr ifanc trwy gydol eu haddysg.


Hoffai Credu gefnogi eich ysgol drwy ei chysylltu â’i brosiect lleol Gofalwyr Ceredigion Carers a thrwy roi mynediad at adnoddau am ddim y gellir eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth ac adnabod Gofalwyr Ifanc.


I gael mynediad at adnoddau Gofalwyr Ifanc Credu, cliciwch ar:

neu i gysylltu â ni, anfonwch e-bost at: ceredigion@credu.cymru

コメント


bottom of page