Ymwybodol o Ofalwyr wrth ryddhau o'r Ysbyty | Carer Aware approach to hospital discharge
- Gofalwyr Ceredigion Carers
- Aug 6
- 2 min read
Scroll down for English text
A ydych chi’n gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu sydd ar hyn o bryd yn yr ysbyty? Gall fod yn gyfnod dryslyd a phryderus, yn enwedig os ydych chi’n meddwl sut y byddwch yn ymdopi ag unrhyw newidiadau. Efallai mai chi, y gofalwr, sydd angen mynd i’r ysbyty a’ch bod yn poeni am beth fydd yn digwydd i’r sawl rydych chi’n gofalu amdanynt tra byddwch chi’n gwella.
Mae Swyddog Gofalwyr ar gyfer Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn ogystal â phob ysbyty a chymuned arall ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Eu nod yw lleddfu’ch baich mewn ffordd sy’n cyfrif i chi, i’ch helpu i drafod eich sefyllfa a gwneud cynllun ar gyfer y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Sut y gallai hyn edrych:
Sgyrsiau rheolaidd i drafod beth sy’n digwydd ac i’ch galluogi i feddwl am eich anghenion eich hunan
Cymorth i ddod o hyd i’r gefnogaeth rydych chi ei eisiau
Mynychu cyfarfodydd, gan gynnwys cyfarfodydd ysbyty, i’ch cefnogi wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol
Cymorth i roi’r offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo ar ôl cael eich rhyddhau o’r ysbyty
Eich cefnogi drwy gydol eich taith ysbyty, boed rhwng wardiau, i leoliadau eraill neu adref
Ar gyfer Ysbyty Bronglais, neu drigolion Ceredigion, cysylltwch â:Beth 07984 464977 beth@credu.cymruLiz 07498 965279 liz@credu.cymru
Do you look after a friend or family member who is currently in hospital? It can be a confusing and worrying time, especially if you are wondering how you will cope with any changes. It may be you, the carer, who needs to go into hospital and are worrying about what will happen to the person you care for while you recover.
There is a Carer Officer for Bronglais General Hospital as well as all other Hywel Dda University Health Board hospitals and communities.
They aim to lighten your load in a way that matters to you, to help you to discuss your situation and make a plan for the support you need.
What this might look like:
- Regular conversations to talk through what is happening and allow you to think through your own needs
- Help to find the support that you want
- Attending meetings, including hospital meetings, to support you in planning the future
- Help in providing you with the tools you want to succeed post discharge
- Following you through your hospital journey, whether between wards, to other settings or home.
For Bronglais Hospital, or Ceredigion residents, contact
Beth 07984 464977 beth@credu.cymru
Liz 07498 965279 liz@credu.cymru
Comments