Caffi Cofion
Wed 11 Mar
|Plas Antaron
sydd wedi’u heffeithio gan ddementia neu sydd â phroblemau cof / for people affected by dementia or with memory problems
Time & Location
11 Mar 2026, 14:00 – 16:00
Plas Antaron, Plas Antaron, Aberystwyth SY23 1SF, UK
About the Event
Ydych chi'n gofalu am rywun â dementia - neu wedi'ch effeithio eich hun?
Mae croeso cynnes i chi i Gaffi Cofion, ein te prynhawn wythnosol yng Nghanolfan Byw'n Dda HAHAV Ceredigion a gynhelir bob Dydd Mercher, rhwng 2-4yp ym Mhlas Antaron, Aberystwyth.
Mae'r caffi am ddim i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia a’u gofalwyr.
Mwynhewch fwyd cartref hyfryd, sgwrs gyfeillgar gyda ffrindiau newydd mewn amgylchedd hamddenol, a sŵn lleddfol cerddoriaeth piano byw gan ein pianydd preswyl.
Mae pob wythnos yn cynnig rhywbeth arbennig - siaradwyr gwadd, sgyrsiau grŵp cefnogi, crefftau, bingo, canu, a dathliadau tymhorol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu lle, cysylltwch. Gallwch ffonio ar 01970 611550 neu ebostio Karen.jones@hahav.org.uk